Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Cyllid


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2017

Amser: 09.32 - 11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4430


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Simon Thomas AC (Cadeirydd)

Neil Hamilton AC

Mike Hedges AC

Jane Hutt AC

Nick Ramsay AC

David Rees AC

Tystion:

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Tracey Breheny, Llywodraeth Cymru

Janine Hale, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Catherine Hunt (Ail Glerc)

Leanne Hatcher (Ail Glerc)

Georgina Owen (Dirprwy Glerc)

Owen Holzinger (Ymchwilydd)

Gareth David Thomas (Ymchwilydd)

Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Steffan Lewis AC.

</AI1>

<AI2>

2       Papur(au) i'w nodi:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

</AI2>

<AI3>

2.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2017-18 - Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru - 24 Tachwedd 2017

</AI3>

<AI4>

2.2   Cynllun Ffioedd Archwilydd Cyffredinol Cymru 2018-19

2.2 Cymeradwyodd y Pwyllgor Gynllun Ffioedd Archwilydd Cyffredinol Cymru 2018-19, yn unol ag adran 24(7) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

</AI4>

<AI5>

3       Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): Sesiwn dystiolaeth

3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Camddefnyddio Sylweddau, Llywodraeth a Busnes Corfforaethol; a Janine Hale, Prif Swyddog Ymchwil (Economeg Iechyd) ar oblygiadau ariannol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i:

·         ddarparu gwybodaeth am yr adolygiad cymheiriaid a gynhaliwyd ar y ffynonellau data a ddefnyddiwyd yn y gwaith modelu gan Brifysgol Sheffield;

·         darparu rhagor o wybodaeth am yr arian a ddyrennir i godi ymwybyddiaeth o'r isafbris am alcohol;

·         adrodd yn ôl i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion y Swyddfa Gartref, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw effaith ar y fframwaith ariannol; ac

·         adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar drafodaethau â Chonsortiwm Manwerthu Cymru ynghylch ardoll wirfoddol bosibl.

</AI5>

<AI6>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o eitem 1 y cyfarfod ar 13 Rhagfyr 2017

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

5       Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru): Ystyried y dystiolaeth

5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

</AI7>

<AI8>

6       Tanwariant Penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau - Papur cwmpasu

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull tuag at ei ymchwiliad ar Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>